Ffwrnes Theatre - Theatrau Sir Gâr
Mae’r Ffwrnes yn ganolfan greadigol a diwylliannol newydd ar gyfer y celfyddydau perfformio, y cyfryngau a digwyddiadau cymunedol.
Mae'n cynnwys awditoriwm o'r radd flaenaf gyda chynhwysedd cynulleidfa o hyd at 500 gyda chyfleusterau mynediad rhagorol i bobl ag anableddau a chyntedd eang ynghyd â chyfleusterau modern cefn llwyfan.
Mae’r Ffwrnes yn un o’r theatrau sydd â’r offer gorau o’i bath, nid yn unig yng Nghymru ond ym Mhrydain gyfan.